close
Neidio i'r cynnwys

DNA (drama)

Oddi ar Wicipedia
DNA
Enghraifft o:gwaith llenyddol, drama Edit this on Wikidata
AwdurWyn Bowen Harries Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Fedal a Thlws y Ddrama, Cwmni Pendraw Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg o waith yr actor a'r dramodydd Wyn Bowen Harries yw DNA neu DNA Darganfod cyfrinach bywyd a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn 2026 gan Gwmni Pendraw. Disgrifir y ddrama fel "stori gariad" ac mae'n sôn am anhegwch bywyd a gwaith Rosalind Franklin yn y 1950au, oedd yn haeddu Gwobr Nobel am ei gwaith yn darganfod cyfrinach bywyd drwy'r DNA. Roedd y ddrama hon ynghanol y ffrae a gododd ynghylch Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, pan ataliwyd y gystadleuaeth, heb roi eglurhad boddhaol.[1] Disgrifiwyd y ddrama gan y beirniaid yn 2024 fel "darn uchelgeisiol [...] byd eang" ac fel "chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

"Stori garu" sydd yma, yn ôl hysbyseb y cynhyrchiad, a stori garu a geir ar sawl lefel wahanol.[2] Cariad rhwng dwy, Rosalind a'i chyfaill Adrienne, ond yn fwy na hynny, ac asgwrn y gynnen, yw cariad Rosalind tuag at ei gwaith, wrth ymuno yn y ras i ddatgelu strwythur DNA, yn Llundain y 1950au. Ond mae "cenfigen academaidd ar waith ac, efallai, Gwobr Nobel yn y fantol".[2]

"Stori dditectif" ond hefyd stori am hiliaeth a rhywiaeth y cyfnod, wrth i Rosalind orfod cwffio yn erbyn sawl gŵr dylanwadol.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Medal Ddrama'r Eisteddfod 2024

[golygu | golygu cod]

Yn ôl erthygl yn Golwg [Awst 2024], nodwyd mai dyma'r ddrama lwyfan gyntaf i Wyn Bowen Harries ei chyfansoddi, gan benderfynu cystadlu yng nghystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024, a gynhaliwyd ym Mhontypridd.[1] Ond heb unrhyw rybudd nac eglurhad digonnol, penderfynodd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Beirniaid [Richard Lynch, Geinor Styles a Mared Swain] bod angen dileu yr holl gystadleuaeth, gan gyhoeddi hynny'n fyw o'r llwyfan, pan oedd y seremoni ar fin cychwyn. Cyhoeddwyd hefyd na fyddai'r feirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau, ac na fyddai'r Eisteddfod yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater. Cododd hyn nyth cacwn ymysg caredigion y Theatr a'r Eisteddfod, ac fe anfonwyd sawl llythyr agored wedi'i arwyddo gan dros 560 o bobl, yn mynnu eglurhad llawn.[3] [4] [5]

Ynghanol yr helynt tanbaid, cyhoeddodd Wyn Bowen Harries, oedd ymysg yr actorion, dramodwyr, cyn enillwyr, cyn Ardderwydd ac Academyddion oedd wedi torri'i llofnod ar y llythyrau, ei fod wedi derbyn "nodyn gan yr Eisteddfod yn diolch iddo am gystadlu, ac yn cynnwys sylwadau’r beirniaid".[1]

Rhannodd y feirniadaeth gyda Golwg, a gyhoeddodd y geiriad ar dudalennau'r cylchgrawn:

"Stori sy’n olrhain hanes darganfyddiad DNA, a’r fenyw wnaeth gyfrannu at y darganfyddiad. Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Cipolwg hynod ddiddorol ar ddarganfyddiad DNA, stori feiddgar a chymhellol sy’n amlygu brwydr merched i gael eu clywed. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg. Mae’r cymeriadau wedi’u darlunio’n dda. Mae deialog yn heriol, ond mae cyfathrebu’r wyddoniaeth gyda’r defnydd o gauze a thafluniad o bosibl yn arwain at sioe syfrdanol yn weledol. Adroddir elfen ddynol y stori gyda hiwmor a pathos. Cymeriadau cyfareddol sy’n adrodd stori mor ganolog yn y ddynoliaeth. Sgript soffistigedig ac aeddfed, sy’n teimlo’n barod i gael ei pherfformio, a chyda llwyddiant ffilmiau fel Oppenheimer, mae’n bleser i weld uchelgais gyda themâu byd-eang yn y theatr Gymreig sy’n adrodd y straeon epig hyn, sy’n effeithio ar bob un ohonom."[1]

Cyfaddefodd Harries ei fod "wedi cael fy synnu cystal beirniadaeth gefais i," a'i fod am "drio gwneud y ddrama yma rywbryd yn y dyfodol.”[1]

Oherwydd gwrthodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i wneud "unrhyw ddatganiad pellach ar y mater", [1] codwyd gwrychyn sawl unigolyn amlwg megis Jeremy Turner,[6] Cefin Roberts,[7] Elin Llwyd Morgan,[8] Sharon Morgan, Manon Eames,[9] Branwen Cennard, Paul Griffiths,[10] Myrddin ap Dafydd, Peredur Lynch, a Dylan Iorwerth[11] ymysg eraill.

Cwmni Pendraw

[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau 2026, wedi ymgeisio am sawl grant i ddatblygu a llwyfannu'r ddrama gan Gyngor y Celfyddydau, cyhoeddodd Cwmni Pendraw - sef cwmni theatr Wyn Bowen Harries a'i wraig Gwen Ellis, fod cynhyrchiad o'r ddrama ar y gweill, ac ar daith yng Nghymru yn ystod Mai a Mehefin 2026.[2]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Pendraw yn 2026 o dan gyfarwyddyd Wyn Bowen Harries ei hun; cerddoriaeth Patrick Rimes; cynllunydd Cai Dyfan; Goleuo a thafluniadau Ceri James; cast:[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 5 6 7 "Y Fedal Ddrama: "Fyswn i ddim yn trio eto os mai fel hyn mae hi'n mynd i fod"". Golwg360. 2024-08-12. Cyrchwyd 2026-07-07.
  2. 1 2 3 4 "Cwmni Pendraw". Cwmni Pendraw. 2026-05-24. Cyrchwyd 2026-07-07.
  3. "Y Fedal Ddrama: Dim atebion o hyd". Golwg360. 2025-02-03. Cyrchwyd 2026-07-07.
  4. "Mwy o ddrama am Y Fedal Ddrama – 239 o bobol yn pwyso am atebion". Golwg360. 2024-12-11. Cyrchwyd 2026-07-07.
  5. "Saga'r Fedal Ddrama dal i rygnu – 560 yn arwyddo ail lythyr". Golwg360. 2025-01-13. Cyrchwyd 2026-07-07.
  6. "Canslo'r Fedal Ddrama yn 'hurt', meddai sylfaenydd Arad Goch". BBC Cymru Fyw. 2024-10-08. Cyrchwyd 2026-07-07.
  7. "'Gormod o siarad' ar ôl canslo'r Fedal Ddrama - Cefin Roberts". BBC Cymru Fyw. 2024-10-08. Cyrchwyd 2026-07-07.
  8. "Beirniad Steddfod yn ystyried tynnu'n ôl wedi helynt Medal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2024-09-29. Cyrchwyd 2026-07-07.
  9. "'Gwarchod, nid sensora' oedd bwriad canslo'r Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2024-08-13. Cyrchwyd 2026-07-07.
  10. "Cyfarfod "hanesyddol" o Lys yr Eisteddfod". Golwg360. 2025-04-26. Cyrchwyd 2026-07-07.
  11. "Y Fedal Ddrama: Galw am "fynegi bod dyfarniad beirniaid yn derfynol"". Golwg360. 2025-02-27. Cyrchwyd 2026-07-07.