Ffenics
| Enghraifft o: | mytholeg |
|---|---|
| Math | legendary bird, legendary progenitor |
| Rhan o | mytholeg Roeg, mytholeg Rufeinig, mytholeg Arabaidd, Persian mythology |
| Gwladwriaeth | Groeg yr Henfyd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0d36f |
| Thesawrws y BNCF | 12021 |

Aderyn mytholegol, yn wreiddiol o fytholeg y Ffenicsiaid, yw'r ffenics (Hen Roeg: Φοῖνιξ). Fe'i ceir ym mytholeg yr Hen Aifft fel y "Bennu", ac ym mytholeg Roeg a Rhufeinig hefyd.
Dywedir ei fod yn aderyn gyda phlu aur a choch sy'n byw am fil o flynyddoedd, yna pan mae'n teimlo diwedd ei oes yn agosáu, mae'n adeiladu nyth ac yn ei roi ar dân. Llosgir yr aderyn yn y nyth, ond o'r lludw mae ffenics newydd yn codi. Cred rhai mai'r fflamingo a roddodd gychwyn i'r chwedl. Defnyddir "ffenics" hefyd am yr aderyn fenghuang ym mytholeg Tsieina.
Daeth yr aderyn yn boblogaidd gyda'r Cristionogion cynnar fel symbol o atgyfodiad, ac mae'n boblogaidd mewn nifer o wledydd fel symbol i gyfleu syniad tebyg. Enwyd dinas Phoenix yn Arizona yn yr Unol Daleithiau ar ei ôl.