Hwthïaid
Arwyddlun yr Hwthïaid gyda'r Sarkha, arwyddair y mudiad:
Mawr yw Duw Marwolaeth i America Marwolaeth i Israel Melltith ar yr Iddewon Buddugoliaeth i Islam | |
| Enghraifft o: | mudiad gwleidyddol, sefydliad gwleidyddol, sefydliad arfog |
|---|---|
| Idioleg | gwrth-Semitiaeth, gwrth-Seioniaeth, Khomeinism, Pan-Islamism, Cenedlaetholdeb Arabaidd, Pan-Arabism, anti-Western sentiment |
| Crefydd | Islamist shi'ism |
| Dechrau/Sefydlu | 1994 |
| Sylfaenydd | Hussein Badreddin al-Houthi |
| Pencadlys | Saada, Sana'a |
| Enw brodorol | الحوثيون |
| Gwladwriaeth | Iemen |
| Gwefan | https://ansarollah.com.ye/, https://ansarollah.com.ye/en/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/047vsxx |
| Quora | Houthis |
Mudiad Islamaidd ffwndamentalaidd yn Iemen yw'r Hwthïaid, yn swyddogol Ansar Alah, un o brif frwydrwyr y rhyfel cartref ers 2014. Shïa Zaydaidd diwygiadol ydyw o ran ideoleg, dan arweiniad teulu Hussein al-Houthi (1959–2004), a sefydlodd y mudiad ym 1994.[1] Yn sgil erledigaeth, trodd yn fudiad milwriaethus a lansiodd gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Iemen yn 2004. Cipiodd yr Hwthïaid y brifddinas Sana'a ym Medi 2014, ac ers hynny maent yn rheoli rhan sylweddol o'r wlad, yn bennaf yr ardaloedd poblog yn y gogledd-orllewin.
Manteisiodd yr Hwthïaid ar yr ansefydlogrwydd yn sgil Chwyldro Iemen (2011–12) a chwymp yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh, a fu'n rheoli'r wlad ers uno'r ddwy Iemen ym 1990. Gwaethygwyd y sefyllfa gan wrthryfelwyr eraill, gan gynnwys al-Qaeda, ac ym Medi 2014 cipiodd yr Hwthïaid Sana'a wedi brwydr a barodd ond pum niwrnod, gan gychwyn ymgyrch dros y pedwar mis olynol i sicrhau rheolaeth dros sefydliadau llywodraethol a milwrol y wlad, gyda chefnogaeth aelodau o'r lluoedd diogelwch a oedd o hyd yn ffyddlon i Abdullah Saleh. Er iddynt sefydlu pwyllgor chwyldroadol dros dro, ac yna gyngor llywodraethol yn 2016, ni chydnabyddir y llywodraeth Hwthïaidd yn rhyngwladol. Ers 2015, mae Sawdi Arabia wedi arwain ymyriad milwrol yn Iemen i geisio adfer y cyn-lywodraeth, gyda chefnogaeth sawl gwlad arall yn y Dwyrain Canol, Affrica, a'r Gorllewin. Er gwaethaf hynny, erbyn 2020 roedd yn amlwg mai'r Hwthïaid sydd ar y brig, ac yn 2022 cytunwyd ar gadoediad â Sawdi Arabia.[2] Yn 2023, mewn ymateb i Ryfel Gaza, lansiodd yr Hwthïaid daflegrau a dronau yn erbyn Israel ac ymosodant ar longau masnach yn y Môr Coch. Yn 2026, ymunodd yr Hwthïaid â Rhyfel Iran, drwy ymosod eto ar Israel a bygwth llongau yn y Môr Coch.
Cyhuddir yr Hwthïaid o gamdriniaethau hawliau dynol, gan gynnwys targedu sifiliaid a defnyddio milwyr dan oed, a dynodir y mudiad yn grŵp terfysgol gan rai gwledydd. Cefnogir yr Hwthïaid gan Gorfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd, a chânt eu hystyried yn rhan o "Echel y Gwrthsafiad", cynghrair anffurfiol dan arweiniad Iran.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Manuel Almeida, "Profile: Who are Yemen’s Houthis?", Al Arabiya (20 Mai 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) "Saudi-led coalition announces Yemen ceasefire from Wednesday", AL-Monitor (29 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Ebrill 2025.
- ↑ (Saesneg) Ismaeel Naar, Ephrat Livni, Abdi Latif Dahir, Eve Sampson, a Jonathan Wolfe, "Who Are the Houthis?", The New York Times (28 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mawrth 2026.