Jack Kerouac
Gwedd
| Jack Kerouac | |
|---|---|
| Ganwyd | Jean-Louis Lebris de Kérouac 12 Mawrth 1922 Lowell |
| Bu farw | 21 Hydref 1969 St. Petersburg |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, nofelydd, sgriptiwr, rhyddieithwr |
| Adnabyddus am | On the Road, The Dharma Bums, Big Sur, Desolation Angels, The Subterraneans |
| Prif ddylanwad | Honoré de Balzac, Louis-Ferdinand Céline, Neal Cassady, William S. Burroughs, Thérèse o Lisieux |
| Mudiad | Cenhedlaeth y Bitniciaid |
| Tad | Léo Alcide Kerouac |
| Mam | Gabrielle Ange Lévesque |
| Priod | Joan Kerouac, Edie Parker, Stella Sampas |
| Plant | Jan Kerouac |
| Gwefan | https://jackkerouac.com |
| Tîm/au | Columbia Lions football |
| llofnod | |
Awdur, bardd a darlunydd Americanaidd oedd Jack Kerouac (ynganer /ˈkɛruːæk, ˈkɛrəwæk/; 12 Mawrth 1922 – 21 Hydref 1969). Ynghyd â William S. Burroughs ac Allen Ginsberg, caiff ei ystyried fel un o arloeswyr Cenhedlaeth y Bitniciaid.
Roedd gweithiau Kerouac yn hynod boblogaidd, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth a dderbyniodd tra'r oedd yn fyw. Erbyn heddiw, caiff ei ystyried yn ysgrifennwr pwysig a dylanwadol a ysbrydolodd ysgrifenwyr eraill, yn cynnwys Hunter S. Thompson, Tom Robbins, Lester Bangs, Richard Brautigan, Ken Kesey, Haruki Murakami a Tom Waits.
Mae Kerouac yn fwyaf adnabyddus am ei lyfrau On the Road, The Dharma Bums, Big Sur, The Subterraneans, a Visions of Cody.