Lleida
Gwedd
| Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia |
|---|---|
| Poblogaeth | 146,266 |
| Pennaeth llywodraeth | Fèlix Larrosa i Piqué |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Anastasius of Lleida |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Segrià |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 212.3 km² |
| Uwch y môr | 155 ±1 metr, 167 metr |
| Gerllaw | Segre, Noguerola, Canal d'Urgell, Canal de Seròs, canal auxiliar d'Urgell, Canal de Balaguer, Canal d'Aragó i Catalunya |
| Yn ffinio gyda | Almacelles, Torrefarrera, Alpicat, Torre-serona, Corbins, Alcoletge, Bell-lloc d'Urgell, Els Alamús, Torregrossa, Artesa de Lleida, Aspa, Alfés, Albatàrrec, Montoliu de Lleida, Sudanell, Alcarràs, Gimenells i el Pla de la Font, Tamarite de Litera |
| Cyfesurynnau | 41.6167°N 0.6333°E |
| Cod post | 25001–25008 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Lleida |
| Pennaeth y Llywodraeth | Fèlix Larrosa i Piqué |
![]() | |
Lleida (Sbaeneg: Lérida, ond yr enw Catalaneg yw'r ffurf swyddogol) yw prifddinas Talaith Lleida, un o bedair talaith Catalwnia, Sbaen. Yn cynnwys srfydliadau cyfagos Raimat a Sucs, roedd gan y ddinas boblogaeth o 124,709 yn 2005.
Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, gelwid y ddinas yn Iltrida neu Ilerda, a hi oedd prifddinas yr Ilergetes, llwyth Iberaidd. Wedi'r goncwest Rufeinig, daeth yn rhan o dalaith Hispania Tarraconensis. Roedd yn ddinas lewyrchus yn y cyfnod Rhufeinig, ac yn bathu ei harian ei hun.
Roedd yn safle bwysig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, gan ei bod yn rhan o amddiffynfeydd Barcelona. Bomiwyd y ddinas yn drwm gan luoedd Francisco Franco a'i gynorthwywyr Almaenaidd, y Legion Kondor, yn 1937 a 1938.

