Maes Awyr Heathrow
Gwedd
| Arwyddair | Making every journey better. |
|---|---|
| Math | maes awyr rhyngwladol, erodrom traffig masnachol |
| Enwyd ar ôl | Llundain, Heathrow |
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hillingdon |
| Agoriad swyddogol | 31 Mai 1946 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 80 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 51.4775°N 0.461389°W |
| Nifer y teithwyr | 83,884,572 |
| Rheolir gan | BAA Limited |
![]() | |
| Perchnogaeth | BAA Limited |
Maes awyr mawr ym Mwrdeistref Llundain Hillingdon yw Maes Awyr Heathrow, codau: IATA: LHR, ICAO: EGLL. Fe'i lleolir tua 14 milltir i'r gorllewin o ganol Llundain. Maes awyr prysuraf y byd yn nhermau traffig rhyngwladol teithwyr ydy o, ac yn nhermau traffig cyfan teithwyr mae o'n ail brysuraf y byd a phrysuraf Ewrop. Mae BAA yn berchen ar Heathrow ac yn ei weithredu. Mae pum terfynfa ganddo; agorwyd y tair terfynfa gyntaf yn y 1950au a 1960au, y bedwerydd ym 1986 a'r bumed yn 2008. Mae'r gwasanaethau cludiant eraill sy'n cysylltu â fo yn cynnwys Rheilffordd Danddaearol Llundain a'r gwasanaeth rheilffordd cyflym Heathrow Express i orsaf Paddington yn Llundain.
