Max Weber
| Max Weber | |
|---|---|
| Ganwyd | Maximilian Carl Emil Weber 21 Ebrill 1864 Erfurt |
| Bu farw | 14 Mehefin 1920 o niwmonia, Pandemig ffliw 1918 München |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, Yr Almaen |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | cyfreithegwr, economegydd, cymdeithasegydd, athronydd, anthropolegydd, cyfreithiwr, academydd, cerddolegydd, gwleidydd, hanesydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The "Objectivity" of Knowledge in Social Science and Social Policy, The Protestant Ethic and the Spirit of Capitalism, The Economic Ethics of the World Religions, The Religion of China, The Religion of India, Ancient Judaism, Science as a Vocation, Politics as a Vocation, General Economic History, Economy and Society |
| Plaid Wleidyddol | National-Social Association, Progressive People's Party, Plaid Ddemocrataidd yr Almaen |
| Tad | Max Weber |
| Mam | Helene Sarah Julie Fallenstein |
| Priod | Marianne Weber |
| Partner | Mina Tobler, Else von Richthofen |
| Llinach | Weber family |
| llofnod | |
Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Maximilian Carl Emil Weber (21 Ebrill 1864 – 14 Mehefin 1920). Ganed ef yn Erfurt yn Thuringia, yn blentyn hynaf i Max Weber, gwleidydd rhyddfrydol a gwas sifil. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Berlin, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio ym mhrifysgolion Freiburg, Heidelberg a München.
Roedd prif ddiddordebau Weber yn ymwneud â chymdeithaseg crefydd a llywodraeth. Ei gyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Ethig Protestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth, lle mae'n dadlau fod crefydd yn un o'r rhesymau pwysicaf am y gwahaniaethau yn natblygiad diwylliannau y gorllewin a'r dwyrain. Ei ddamcaniaeth oedd fod nodweddion Protestaniaeth wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth.
Mewn gwaith arall, Gwleidyddiaeth fel Galwedigaeth, diffiniodd Weber y wladwriaeth fel y corff sy'n hawlio monopoli ar ddefnydd cyfreithlon grym, diffiniad sydd wedi dod yn allweddol i wyddor gwleidyddiaeth.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Ellis Roberts, Weber, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1982)