Umar
| Umar | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 586 Mecca |
| Bu farw | 3 Tachwedd 644 o clwyf drwy stabio Medina |
| Dinasyddiaeth | Rashidun Caliphate |
| Galwedigaeth | gwladweinydd, Califf, Imam, arweinydd crefyddol, companions of the Prophet |
| Swydd | Califf |
| Tad | Al-Khattab bin Nufayl |
| Mam | Ḥantamah bint Khattab |
| Priod | Umm Kulthum bint Ali, Atika bint Zayd, Jamila bint Thabit, Umm Kulthum bint Jarwal, Qurayba al-Sugra bint Abi Umayya, Zaynab bint Maz'un, Fatima bint al-Walid ibn al-Mughira |
| Plant | Abd Allah ibn Umar ibn al-Khattab, Asim ibn Umar, Hafsa bint Umar ibn Al-Khattab, Ubayd Allah ibn Umar ibn al-Khattab, Zayd ibn Umar, Ruqayyah bint Umar |
| Perthnasau | Safiyya bint Abi Ubayd |
Umar, yn llawn Omar ibn al-Chattab (Arabeg: عمر بن الخطاب ), hefyd Omar (ca. 584 – 3 Tachwedd 644) oedd Califf yr ymerodraeth Arabaidd o 634 hyd 644. Ef oedd yr ail o'r pedwar califf a elwir y Rashidun, ac roedd yn un o sahaba (cymdeithion) y proffwyd Muhammad.
Ganed ef yn Mecca. Ar y cyntaf, roedd yn gwrthwynebu Muhammad, ond yn ôl traddodiad, cafodd droedigaeth at Islam yn 616. Olynodd Abu Bakr fel Califf yn 634. Yn ystod ei deyrnasiad fel Califf, ymestynnwyd yr ymerodraeth yn fawr, trwy feddiannu Palesteina yn 637, Irac (636), Syria (636) a'r Aifft(639-642). Enillodd fuddugoliaethau dros y Sassaniaid hefyd, er mai dim ond dan ei olynydd y meddiannwyd Ymerodraeth Persia yn derfynol. Yn 644, llofruddiwyd ef gan gaethwas Cristnogol, Abu Lu'lu. Olynwyd ef gan Uthman ibn Affan.